Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher,
29 Mehefin 2022
Amser y
cyfarfod: 13.30
------
Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.
Mae'r Llywydd wedi penderfynu y bydd Aelodau, yn unol â Rheol Sefydlog 34.14A-D, yn gallu pleidleisio o unrhyw leoliad drwy ddull electronig.
1 Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2.
2 Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2.
3 Cwestiynau Amserol
(20 munud)
Gofyn i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
Rhys ab Owen (Canol De Cymru): Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ddiogelu setliad datganoli Cymru yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth y DU am ddileu Deddf yr Undebau Llafur (Cymru) 2017?
Gofyn i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y rhybudd gan Dr Gwyn Williams o Goleg Brenhinol yr Ophthalmolegwyr, y gallai ton o ddallineb diangen ledaenu drwy Gymru os na chaiff gwasanaethau gofal llygaid eu diwygio?
4 Datganiadau 90 Eiliad
(5 munud)
5 Datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus - Cyfrifon Cyfunol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2020-21
(30 munud)
6 Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Aros yn iach? Effaith yr ôl-groniad o ran amseroedd aros ar bobl yng Nghymru
(60 munud)
NDM8039 Russell George (Sir Drefaldwyn)
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol: ‘Aros yn iach? Effaith yr ôl-groniad o ran amseroedd aros ar bobl yng Nghymru’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 7 Ebrill 2022.
Noder: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 22 Mehefin 2022.
7 Dadl ar ddeiseb P-06-1277 - Achub yr Adran Damweiniau ac Achosion Brys. Rhaid i Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg gadw gofal brys 24 awr, 7 diwrnod yr wythnos, dan arweiniad meddyg ymgynghorol
(30 munud)
NDM8040 Jack Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy)
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi’r ddeiseb, P-06-1277 Achub yr Adran Damweiniau ac Achosion Brys. Rhaid i Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg gadw gofal brys 24 awr, 7 diwrnod yr wythnos, dan arweiniad meddyg ymgynghorol, a gasglodd 11,168 o lofnodion.
8 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Diabetes
(30 munud)
NDM8041 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi bod dros 209,015 o bobl yng Nghymru yn byw gyda diabetes a bod gan Gymru'r nifer fwyaf o achosion o ddiabetes yng ngwledydd y DU.
2. Yn mynegi pryder am y cynnydd cyflym yn y diagnosis o ddiabetes dros yr 20 mlynedd diwethaf.
3. Yn cydnabod effaith andwyol barhaus pandemig y coronafeirws ar amseroedd aros, mynediad at wasanaethau, profion diagnostig, atal a gofalu am bobl â diabetes yng Nghymru.
4. Yn cydnabod yr angen am ymrwymiad o'r newydd i wella canlyniadau i bobl sydd â diabetes ac sydd mewn perygl o gael diabetes er mwyn cynnal y Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer Diabetes.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi'r datganiad ansawdd ar gyfer diabetes cyn diwedd mis Gorffennaf ac ymrwymo i ddatblygu cynllun gweithredu newydd ar gyfer diabetes o fewn 12 mis.
Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer Diabetes yng Nghymru
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Dileu popeth ar ôl pwynt 2 a rhoi yn ei le:
Yn cydnabod bod gwaith ar y gweill i adfer gwasanaethau arferol i bobl â diabetes yn dilyn effaith y pandemig.
Yn cydnabod yr ymrwymiad sy'n bodoli o fewn y GIG yng Nghymru i:
a) sicrhau bod pobl yn cael eu cefnogi i wneud dewisiadau iach sy'n lleihau’r tebygolrwydd y byddant yn datblygu diabetes math 2;
b) gwneud cynnydd tuag at gynnig cyfle i'r rhai sydd wedi cael diagnosis o ddiabetes math 2 yn ystod y chwe blynedd diwethaf gael mynediad at wasanaeth lleddfu diabetes; a
c) sicrhau gofal hygyrch sy'n canolbwyntio ar y claf i bobl â diabetes, yn ogystal â defnyddio technoleg ac addysg i'w helpu i reoli eu cyflwr yn well.
Yn nodi bod gwaith ar y gweill gyda rhanddeiliaid i ddatblygu datganiad ansawdd diabetes i'w gyhoeddi yn yr hydref.
[Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol]
Gwelliant 2 Sian Gwenllian (Arfon)
Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 4 ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn credu y gallai buddsoddi mewn mesurau ataliol arwain at leihad sylweddol mewn diabetes math 2, ac arwain at arbedion mawr i'r GIG.
Gwelliant 3 Sian Gwenllian (Arfon)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi cynllun atal diabetes sy'n canolbwyntio ar ddeiet a gweithgarwch corfforol, gyda chyllid priodol.
Gwelliant 4 Sian Gwenllian (Arfon)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ymhellach ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod mwy o gymorth seicolegol arbenigol ar gael fel rhan annatod o'r cymorth a roddir i'r rhai sy'n byw gyda diabetes.
9 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Cystadleuaeth Cân Eurovision 2023
(30 munud)
NDM8042 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi datganiad yr Undeb Darlledu Ewropeaidd ar 17 Mehefin 2022.
2. Yn gresynu at y ffaith na ellir cynnal Cystadleuaeth Cân Eurovision 2023 yn Wcráin oherwydd ymosodiad parhaus Rwsia.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymgysylltu â'r BBC a'r Undeb Darlledu Ewropeaidd ynghylch cynnal Cystadleuaeth Cân Eurovision 2023 yng Nghymru.
Undeb Darlledu Ewrop: datganiad ar gynnal Cystadleuaeth Cân Eurovision 2023 (Saesneg yn unig)
Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:
Gwelliant 1 Sian Gwenllian (Arfon)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ymhellach ar Lywodraeth Cymru i baratoi cais i Gymru gymryd rhan fel cenedl yn ei rhinwedd ei hun yng Nghystadleuaeth Cân Eurovision, gan hyrwyddo presenoldeb Cymru ar y llwyfan rhyngwladol.
10 Cyfnod Pleidleisio
11 Dadl Fer
(30 munud)
NDM7979 Jack Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy)
Ein Cymru ni: creu cenedl bêl-droed flaenllaw
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mawrth, 5 Gorffennaf 2022